Gallai un o bob pump o weithwyr fynd yn absennol o’r gwaith yn sgil coronavirus, yn ôl Llywodraeth Prydain.

Fel rhan o gynlluniau’r llywodraeth, mae’r heddlu’n cadw golwg ar achosion nad ydyn nhw’n flaenoriaeth, ac mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gohirio achosion nad ydyn nhw’n rhai brys.

Mae’r ddogfen 27 tudalen yn gosod allan ymateb y Deyrnas Unedig i coronavirus yn sgil gofidion am effaith y firws ar iechyd pobol, yr economi a gwasanaethau cyhoeddus.

Gallai mesurau megis cau ysgolion i “leihau nifer y cynulliadau mawr” ac annog pobol i weithio gartref gael eu defnyddio i atal y firws rhag lledaenu.

Ymateb pedwar cam

Mae ymateb y Llywodraeth yn cael ei rannu’n bedwar cam:

  • dal y firws
  • arafu’r firws wrth iddo ledaenu
  • lliniaru effaith yr afiechyd unwaith mae wedi sefydlu a
  • chreu rhaglen ymchwil i wella diagnostig a thriniaeth ar gyfer y firws.

Wrth lansio’r cynllun yn Downing Street, dywed y Prif Weinidog Boris Johnson nad oes “dim amheuaeth” fod “y wlad yn mynd i oroesi’r coronavirus yn holliach.”

Ond pwysleisiodd ei bod hi’n “hynod debygol” y bydd nifer yr achosion yn y Deyrnas Unedig yn codi.

“Gadewch i mi fod yn glir bod y mwyafrif o bobl fydd yn dioddef o’r firws, yn dioddef o afiechyd ysgafn ac yn gwella’n gyflym, fel yr ydym eisoes wedi ei weld.”

Casgliadau

Dywed y Llywodraeth:

  • fod y Deyrnas Unedig yn “debygol” o gael ei heffeithio’n sylweddol;
  • y bydd y mwyafrif o gleifion yn cael haint ysgafn, ond y gallai rhai orfod cael triniaeth ysbyty, gyda marwolaethau’n bosib mewn achosion prin;
  • y gallai hyd at un o bob pum gweithiwr fod yn absennol pan fo’r haint ar ei uchaf;
  • y gallan nhw symud tuag at strategaeth o “oedi” ymlediad yr haint i fisoedd cynhesach y gwanwyn a’r haf;
  • eu bod yn paratoi ar gyfer nifer o sefyllfaoedd posib, o bandemig effaith isel i un difrifol ac estynedig;
  • y gallai ysgolion gau, pobol orfod gweithio o adref, a digwyddiadau mawr gael eu gohirio os yw’r sefyllfa yn gwaethygu;
  • y gallai staff iechyd sydd wedi ymddeol gael eu galw’n ôl i helpu â’r llwyth gwaith;
  • y bydd yr heddlu’n canolbwyntio ar droseddau difrifol yn unig os oes prinder swyddogion oherwydd salwch.