Mae Canolfan Alwadau Adra wedi cyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau Cenedlaethol Canolfannau Cyswllt Cymru ar gyfer gwobr Canolfan Alwadau Gorau’r flwyddyn.
Darparwr cartrefi yng ngogledd Cymru yw Adra ac maen nhw’n gofalu am dros 6,300 o gartrefi ac yn cynnig gwasanaethau i dros 14,000 o gwsmeriaid.
Pwrpas y Ganolfan Alwadau yw sicrhau bod yr uchod yn cael ei gyflawni i safon uchel, gweithio tuag at lwyddiant y cwmni a gwneud yn siŵr bod Adra yn darparu gwasanaethau cwsmeriaid digonol.
“Rydan ni fel tîm y Ganolfan Alwadau yn hynod falch fel ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Canolfan Alwadau’r Flwyddyn,” meddai Gwion Tomos, Cydlynydd Gwasanaethau Cwsmeriaid.
“Rydan ni fel tîm yn gweithio’n ddiflino er mwyn darparu Gwasanaeth Cwsmer o safon uchel i’n cwsmeriaid ac mae cyrraedd y rhestr fer yn rhoi cydnabyddiaeth i ni am ein hymdrechion.”
Canolfan brysur
Mae cyswllt drwy ganolfannau alwadau Adra yn hanfodol i sut mae’r cwmni’n darparu gwasanaethau i’w cwsmeriaid, gyda naw o bob deg cyswllt â chwsmeriaid yn digwydd drwy’r ganolfan alwadau.
Mae’r ganolfan wedi derbyn bron i 100,000 o alwadau, 3,000 o e-byst a bron i 4,000 o lythyrau dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ymuno ag Adra ar y rhestr fer mae Cyllid Myfyrwyr Cymru, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Principality Building Society, Legal & General Direct Sales.