Mae Stephen Doughty, aelod seneddol De Caerdydd a Phenarth, yn galw ar yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel i egluro’i hun yn dilyn ymadawiad ei phrif was sifil.
Fe ddaw ar ôl i Syr Philip Rutnam gyhuddo Priti Patel o “ymgyrch fileinig” yn ei erbyn, gan ddweud ei bod hi wedi creu awyrgylch o “ofn” yn y Swyddfa Gartref, lle byddai hi’n gweiddi at staff ac yn eu rhegi.
Mae’n dweud ei fod e am ddwyn achos yn erbyn y Swyddfa Gartref am ddiswyddiad trwy ddehongliad ac annheg.
Yn ôl Stephen Doughty, sy’n aelod o’r Pwyllgor Materion Cartref yn San Steffan, mae’n rhaid bod dyfodol Priti Patel yn y fantol.
“Alla i ddim cofio’r fath ddatganiad syfrdanol gan was sifil uwch,” meddai wrth y Press Association.
“Mae’n dangos yn glir pa mor wenwynig a chamweithredol ddaeth perthnasau wrth galon y llywodraeth hon.
“Rhaid bod safle Priti Patel hithau yn Ysgrifennydd Cartref yn y fantol erbyn hyn.
“Ar ôl holi Syr Philip yn daer ar sawl achlysur, mae’n amlwg na fyddai wedi gwneud y penderfyniad hwn heb ystyriaeth ofalus – ac mae’n rhaid i ni feddwl nawr pa ddatgeliadau eraill ddaw.”
Lladd ar Boris Johnson a’i ymgynghorwyr
Yn ôl Stephen Doughty, mae “canlyniadau ehangach” i’r sefyllfa.
Ac mae’n dweud bod Boris Johnson, prif weinidog Prydain, a’i ymgynghorwyr yn rhannu’r cyfrifoldeb.
“Mae’n amlwg bod diwylliant o fewn y llywodraeth hon sy’n cael ei arwain o’r brig, gan y prif weinidog a’i brif ymgynghorydd, sydd nawr yn dadsefydlogi’r ffordd mae’r wladwriaeth yn gweithredu.”