Mae Syr Philip Rutnam, prif was sifil y Swyddfa Gartref, wedi gadael ei swydd gan ddweud ei fod e am ddwyn achos yn erbyn yr adran.

Mewn datganiad i’r BBC yn cyhoeddi ei ymadawiad, mae e wedi lladd ar Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan.

Mae’n dweud iddo fod yn destun “ymgyrch briffio fileinig oedd wedi’i chynllunio” gan Priti Patel.

“Dw i wedi ymddiswyddo fore heddiw o fod yn ysgrifennydd parhaol y Swyddfa Gartref,” meddai.

“Dw i’n gwneud y penderfyniad hwn yn llawn edifeirwch ar ôl gyrfa sydd wedi para 33 o flynyddoedd.

“Dw i’n gwneud y datganiad hwn nawr oherwydd byddaf yn dwyn achos yn erbyn y Swyddfa Gartref ar sail diswyddo trwy ddehongliad.

“Dros y 10 niwrnod diwethaf, dw i wedi bod yn destun ymgyrch briffio fileinig wedi’i chynllunio.

“Honnwyd fy mod i wedi briffio’r cyfryngau yn erbyn yr Ysgrifennydd Cartref.

“Mae hyn, ynghyd â sawl honiad arall, yn gwbl ffals.”

Mae’n dweud ymhellach iddo geisio annog Priti Patel i “newid ei hymddygiad”, gan fod ei ddyletswyddau ei hun yn cynnwys “gwarchod iechyd, diogelwch a lles” staff.

Mae’n dweud bod y sefyllfa’n “eithafol” ond yn awgrymu “patrwm ehangach o ymddygiad”, gan gynnwys gweiddi a rhegi, bychanu staff a gwneud ceisiadau “afresymol ac ailadroddus”.

Mae’n dweud bod y fath ymddygiad wedi “creu ofn” a bod angen “dewrder” wrth dynnu sylw at y sefyllfa.

Priti Patel yn gwadu

Mae’n dweud bod Priti Patel yn gwadu’r honiadau yn ei herbyn.

“Mae’n ddrwg gen i nad ydw i’n ei chredu hi,” meddai wedyn.

“Dydy hi ddim wedi gwneud yr ymdrech y byddwn i’n ei ddisgwyl er mwyn ymbellhau oddi wrth y sylwadau.

“Hyd yn oed er gwaetha’r ymgyrch hon, ro’n i’n barod i geisio cymodi â’r Ysgrifennydd Cartref.

“Ond er gwaethaf fy ymdrechion i ymgysylltu â hi, dydy Priti Patel ddim wedi gwneud unrhyw ymdrech i ymgysylltu â fi er mwyn trafod hyn.

“Dw i’n credu bod y digwyddiadau hyn yn rhoi seiliau cadarn iawn i fi hawlio diswyddiad trwy ddehongliad ac annheg a byddaf yn dwyn achos yn y llysoedd.”

Ymateb i’r cyhoeddiad

Yn dilyn y cyhoeddiad am ymadawiad Syr Philip Rutnam, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o driniaeth “ddychrynllyd” o weision sifil.

Yn ôl Christine Jardine, llefarydd materion cartref y blaid, mae “cwestiynau difrifol i’w gofyn am y diwylliant yn y Swyddfa Gartref” ac mae’n eu cyhuddo o “ymddwyn yn union fel Donald Trump”.

Yn ôl llefarydd yr FDA, prif undeb gweision sifil uwch gwledydd Prydain, mae’r sefyllfa’n “dangos canlyniadau dinistriol briffio anhysbys yn erbyn gweision sifil sy’n methu amddiffyn eu hunain yn gyhoeddus”.

Mae’n dweud y bydd yr undeb yn cefnogi achos Syr Philip Rutnam.