Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu buddsoddi bron i £255m mewn prosiectau i roi hwb i’r economi, creu swyddi a gwella ansawdd bywyd pobol y sir.

Ddydd Llun (24 Chwefror), cytunodd y Bwrdd Gweithredol ar ei raglen ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Maen nhw’n bwriadu gwario chwarter biliwn o bunnoedd ar amrywiaeth o gynlluniau i gyflawni eu blaenoriaethau a’u dyheadau ar gyfer y sir.

Y gobaith yw y bydd y cynllun yn cael ei basio gan y cyngor llawn ym mis Mawrth, ac yna bydd y cyngor yn ymrwymo:

  • £126m o’i gyllid ei hun i’w ychwanegu at £129 miliwn pellach y mae’n bwriadu ei sicrhau o grantiau
  • £86m pellach i adeiladu neu drawsnewid rhagor o ysgolion fel rhan o’r rhaglen fuddsoddi Ysgolion yr 21 Ganrif, sydd eisoes wedi cynnwys buddsoddiad o dros £200m miliwn mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd newydd neu well dros y 10 mlynedd diwethaf
  • £1.9m i adfywio Oriel Myrddin ar Heol y Brenin
  • Er mwyn gwella cyfleoedd hamdden pobl ymhellach, mae’r cyngor yn bwriadu buddsoddi £650,000 pellach yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, ac mae wedi ail-ymrwymo i ddarparu canolfan hamdden newydd yn Llanelli fel rhan o’r Pentref Llesiant sy’n mynd rhagddo.
  • £4m ar drawsnewid Neuadd y Farchnad, Llandeilo
  • £847,000 ar gyfer buddsoddiad pellach yn Ystâd Ddiwydiannol Glanaman
  • £500,00 i roi hwb i ymdrechion y cyngor i ddod yn garbon sero-net o fewn y 10 mlynedd nesaf
  • £6.5m i gynnal a gwella eiddo gweithredol y cyngor, gan gynnwys gwaith hanfodol yn Neuadd y Sir Caerfyrddin, a Thŷ Elwyn yn Llanelli.

 

‘Cynhwysfawr, cyffrous, uchelgeisiol’

“Mae’r rhaglen gyfalaf arfaethedig yn rhagweld y bydd yn gwario bron £255 miliwn dros y pum mlynedd nesaf, gan fanteisio ar gyfleoedd cyllido a chael yr arian mwyaf posibl o ffynonellau allanol posibl,” meddai’r Cynghorydd David Jenkins, sy’n aelod o’r Bwrdd Gweithredol.

“Mae’n gynhwysfawr, yn gyffrous ac yn uchelgeisiol – cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol a fydd yn datblygu’r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd ein dinasyddion.”