Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi dros £50m i adeiladu 380 o gartrefi fforddiadwy, rhenti diogel erbyn 2025 fel rhan o raglen Cartrefi newydd i Bowys.

Amlinellwyd y cynlluniau uchelgeisiol yng Nghynllun Busnes Tai newydd y cyngor sir, gan hefyd addo buddsoddi swm tebyg yn ychwanegol dros y bum mlynedd nesaf yng nghartrefi presennol y cyngor i sicrhau eu bod yn parhau i gwrdd â Safonau Ansawdd Tai Cymru.

“Rydym am fuddsoddi’n helaeth yn ein stoc bresennol i sicrhau eu bod yn bodloni safonau modern,” meddai’r Aelod Cabinet ar faterion Datblygu Economaidd, Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio, y Cynghorydd James Evans.

“Mae’r cabinet yn ymrwymo hefyd i sicrhau bod y datblygiadau’n defnyddio neu’n cefnogi crefftwyr Powys lle’n bosibl.”