Eleni bydd Hanner Marathon Môn yn rhoi’r dewis i redwyr i blannu coeden yn hytrach na derbyn crys-T y digwyddiad.

Bwriad y syniad sy’n cael ei ddisgrifio fel un “newydd ac arloesol” yw lleihau ôl troed ecolegol y rhedwyr.

Yn ôl Tim Lloyd, Cyfarwyddwr Always Aim High Events, sy’n trefnu’r ras: “Gan weithio gyda’r elusen ‘Size of Wales’ rydym yn cynnig dewis i’r rhedwyr eleni.”

Mae’r elusen yn ariannu prosiectau plannu coed a diogelu fforestydd ar draws y byd, a hyd yma wedi plannu dros 10 miliwn o goed, ac yn anelu i blannu 25 miliwn erbyn 2025.

Dywedodd Geraint Hughes o gwmni Jones Crisps, noddwyr y ras, eu bod nhw’n falch o allu “cefnogi’r syniad yma, a hyrwyddo dewisiadau amgen a chynaliadwy.”

Mae 1,600 o redwyr eisoes wedi cofrestru ar gyfer yr hanner marathon sy’n cael ei gynnal ddydd Gŵyl Dewi.