Mae mwy na 3,000 o bobl wedi dangos eu hanniddigrwydd am ddiffyg sylw i hanes Cymru yn y cwricwlwm newydd, wrth arwyddo deiseb ar-lein.
Yn dilyn sylwadau Kirsty Williams fis Ionawr “nad oes y fath beth â Hanes Cymru, dim ond hanesion Cymreig”, mae rhai wedi mynd ati i lofnodi deiseb a grëwyd gan Elfed Wyn Jones o Drawsfynydd, sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Hanes Cymru yn cael ei ddysgu i ddisgyblion Cymru drwy’r cwricwlwm newydd.
Mewn datganiad ar wefan ddeisebu Llywodraeth Cymru, mae’r ymgyrchwyr yn dweud bod “hanes Cymru’n bwysig i bob un disgybl, gan ei fod o’n rhoi cefndir am hanes ein cenedl a’n treftadaeth i bawb sy’n mynd drwy’r system addysg”, a bod yna “agweddau o hanes Cymru, megis Cyfreithiau Hywel Dda, Gwrthryfel Glyndŵr a Boddi Capel Celyn yn perthyn i bob cymuned yng Nghymru”.
Dywed awdur y ddeiseb ymhellach ei fod yn “bryderus felly fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymwrthod ag argymhelliad y pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu i greu corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy’n astudio hanes”.
“Mae’n bwysig creu cwricwlwm Hanes Cymru lle mae disgyblion yn dysgu am ddigwyddiadau a materion sy’n genedlaethol, yn ogystal â dysgu am Hanes eu cymunedau a’u hardaloedd nhw,” meddai wedyn.
Rhaid i ddeiseb ddenu mwy na 5,000 o lofnodion er mwyn hawlio amser ar gyfer dadl mewn cyfarfod llawn o’r Cynulliad yn ddiofyn, a bydd hi’n cau ar Orffennaf 18.
Erbyn neithiwr, roedd y ddeiseb ychydig gannoedd yn brin o 4,000 o lofnodion.