Fydd disgyblion o Tsieina ddim yn gadael safle ysgol breswyl yn Nhrefynwy ar gyfer gwyliau hanner tymor yn sgil y coronavirus.

Mae disgyblion Ysgolion Trefynwy Haberdashers fel arfer yn mynd adref ar gyfer y gwyliau ym mis Chwefror.

Ond mae’r pennaeth James Murphy-O’Connor yn dweud y byddan nhw’n aros ar y pum safle yng Nghymru.

“Fel teulu o ysgolion, rydyn ni wedi bod yn monitro datblygiad y coronavirus newydd yn Tsieina yn agos iawn,” meddai.

“Rydyn ni’n cefnogi’n holl blant a rhieni o dramor yn ystod y cyfnod anodd hwn, pan fo cymaint o ansicrwydd o hyd ynghylch cyfyngiadau teithio tramor posib er mwyn cyfyngu faint mae’r firws yn lledu.

“Yn wyneb y cyngor diweddaraf gan y Swyddfa Dramor, bydd ein preswylwyr o Tsieina yn aros yn Deyrnas Unedig gyda’u gwarcheidwaid dros hanner tymor.

“Ein prif flaenoriaeth yw iechyd a lles pob aelod o’r ysgol a’r gymuned leol ehangach.”