Mae dau achos newydd o’r coronavirus a gyhoeddwyd fore Llun, 10 Chwefror, yn cynnwys gweithwyr iechyd, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
Mae pedwar achos pellach wedi profi’n bositif am coronavirus yn Lloegr, gan ddod a’r cyfanswm ym Mhrydain i wyth.
Mae’r pedwar person sydd wedi eu heintio i gyd wedi bod mewn cysylltiad â’r dyn busnes o Brighton a gafodd ddiagnosis o coronavirus yr wythnos diwethaf wedi iddo fod mewn cynhadledd yn Singapore.
Gorfodwyd meddygfa yn Brighton i gau ar ôl i aelod o’r staff gael ei heintio, ac mae’n debyg mai doctor yw’r un arall a oedd yn sgïo gyda’r gŵr busnes yn Chamonix yn Ffrainc, wedi iddo aros yno ar ei ffordd yn ôl i Brighton o Singapore.
Yn ôl Canolfan Feddygol County Oak yn Brighton, roedd yn rhaid iddyn nhw gau “oherwydd rheswm gweithredu iechyd a diogelwch brys” ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai aelod o staff yno oedd un o’r rhai a oedd wedi ei heintio.
Gwelwyd pobl mewn dillad arbennig a menig yn glanhau’r ganolfan mewn fideo a rannwyd ar lein, ond dywedodd ffynonellau wrth asiant newyddion y PA fod yr aelod o staff ond wedi dod i gysylltiad â llond dyrnaid o bobl yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae’r canfyddiadau yma yn dilyn cyhoeddiad gan y Llywodraeth heddiw am bwerau cyfreithiol newydd sydd yn gorfodi pobl sydd wedi eu heintio a coronavirus i gwarantin, ac ni fydd hawl ganddynt adael, ac mae posib iddyn nhw gael eu gorfodi trwy rym i safle ar wahân os ydynt yn profi i fod yn fygythiad.