Mae ffordd brysur yng nghanol dinas Abertawe wedi’i chau ar ôl i goeden gwympo yn sgil gwyntoedd cryfion.

Mae’r heddlu wedi’u galw i Heol Alexandra ger adeilad y BBC ac Oriel Glynn Vivian.

Mae’r traffig yn cael ei ddargyfeirio.

Mae trefniadau ar y gweill i symud y goeden, meddai’r heddlu.