Mae Joanna Cherry, aelod seneddol blaenllaw’r SNP, yn annog pleidiau gwleidyddol yr Alban i fwrw ati gyda’u cynlluniau ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban yn hytrach nag aros am ganiatâd gan San Steffan.

Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn rhybuddio rhag cynnal refferendwm ymgynghorol ond yn ôl ei chydweithiwr, “nawr yw’r amser i ddechrau’r paratoadau”.

Ond mae Joanna Cherry, llefarydd materion cartref yr SNP yn San Steffan, yn dweud y dylid pasio deddfwriaeth er mwyn cynnal pleidlais o’r fath er mwyn mesur y gefnogaeth i annibyniaeth.

Mae’n dweud y byddai’n disgwyl wedyn i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gyflwyno her gyfreithiol a’r Goruchaf Lys yn gorfod gwneud dyfarniad.

“Mae nifer o arbenigwyr cyfreithiol yn credu y bydden ni’n ennill y ddadl,” meddai.

Mesur y gefnogaeth

Mae’r polau diweddaraf yn awgrymu bod y mwyafrif o Albanwyr o blaid cyflwyno deddfwriaeth er mwyn cynnal ail refferendwm os yw San Steffan yn parhau i wrthsefyll yr ymgyrch, ar ôl i’r refferendwm cyntaf yn 2014 fethu o drwch blewyn.

Yn ôl Panelbase, byddai 56% o blaid cyflwyno deddfwriaeth o dan y fath amgylchiadau.

Mae Joanna Cherry yn dweud y byddai cyflwyno deddfwriaeth “yn ein symud i ffwrdd o’r impasse bresennol ac yn stopio’r sôn di-baid ac annefnyddiol am orchmynion Adran 30 a cheisio ‘caniatâd’ gan San Steffan i weithredu”.

Dywedodd Nicola Sturgeon fis diwethaf nad oedd hi’n cefnogi cynnal pleidlais debyg i’r un yng Nghatalwnia er mwyn ceisio barn y cyhoedd ond yn ôl Joanna Cherry, gallai Llywodraeth yr Alban wneud tro pedol pe bai’r llysoedd yn cydsynio.