Mae bron i 1,000 o gartrefi wedi bod heb drydan yn Sir Fynwy o ganlyniad i Storm Ciara.

Mae’n effeithio ar ardaloedd Cas-gwent a Threfynwy yn bennaf.

Mae Western Power Distribution yn ceisio adfer cyflenwadau a’u gobaith yw y bydd y trafferthion wedi’u datrys yn llawn erbyn 5.30yp.