Mae’r heddlu’n rhybuddio pobol i gadw draw o siopau Mostyn Champneys yn Llandudno oherwydd y tywydd.

Mae arwyddion wedi cwympo oddi ar sawl adeilad yn y ganolfan oherwydd gwyntoedd cryfion sydd wedi’u hachosi gan Storm Ciara.

Mae’r heddlu ar y safle i gynghori busnesau a’u cwsmeriaid.