Mae Cymro Cymraeg wedi bod yn sôn wrth golwg360 am ei rwystredigaeth wrth aros i ddod adre’ o Iwerddon.
Mae Huw Brassington yn un o filoedd o Gymry sydd yn y wlad ar benwythnos y gêm rygbi fawr yn Nulyn.
Roedd e’n disgwyl hedfan i Gaerliwelydd fore heddiw (dydd Sul, Chwefror 9), ond mae’r daith honno wedi’i chanslo.
“Yn y maes awyr ‘wan a ma’ flight fi wedi canslo,” meddai.
“Lle’n llawn pobol hungover blêr mewn topia’ Cymru hefo staens ac manw gyd yn rhechan, Guinness.
“Cychod ’di canslo, gyd o’r flights sydd yn mynd yn llawn dop.
“Mae un flight i Gaerdydd ’di ohirio o 5yb i 3yp. Fydda i’n gorfod disgwyl tan fory mwy na thebyg.”
Yn ôl Maes Awyr Caerdydd, mae oedi ar nifer o awyrennau ac mae’r daith sy’n gadael Dulyn am 4.30 am Gaerdydd wedi’i chanslo ond mae disgwyl ar hyn o bryd i’r daith am 5.05yp fynd yn ei blaen.
Fferi
Mae oedi hefyd i bobol sy’n dychwelyd i Gymru ar y fferi, gyda nifer yn rhoi gwybod i golwg360 am eu hamgylchiadau.
Mae Irish Ferries yn rhedeg teithiau rhwng Rosslare a Phenfro, a Dulyn i Gaergybi, tra bod Stena yn rhedeg teithiau rhwng Rosslare ac Abergwaun, a Dulyn i Gaergybi.
“Ar hyn o bryd delayed 2.50 ar y Stena, ag yn gorfod mynd o’r ystafell amser cinio wrth bod rhywun arall yn dod i’r ystafell,” meddai Helen Wyn Roberts mewn neges ar Facebook.
“Ddim yn rhy sicr,” meddai Gwenno Davies. “Wedi methu mynd ar gwch Stena 8yb. Aros i weld os gewn ni fynd ar un 3yp.”
Ac mae diffyg gwybodaeth gan Stena yn broblem i griw arall o deithwyr, yn ôl Lisa Thomas.
“Un o’r grwp wedi ffono Stena ond heb gael unrhyw wybodaeth am pryd eith y llong nesa!” meddai.