Mae Jeremy Hunt, cyn-Ysgrifennydd Tramor Prydain, yn dweud nad yw’r Unol Daleithiau’n ymddwyn fel cynghreiriad yn eu hymateb i achos Anne Sacoolas, gwraig diplomydd oedd wedi taro a lladd Harry Dunn yn Swydd Northampton.

Mae adroddiadau bellach fod Anne Sacoolas yn gyn-asiant i’r CIA, a bod hynny wedi cael dylanwad ar y penderfyniad i beidio â’i hestraddodi i wynebu cyhuddiadau.

Yn ôl Jeremy Hunt, fe allai hynny fod wedi “cael dylanwad” ar y penderfyniad.

“Dw i ddim yn gwybod y gwirionedd am y pethau hyn gan nad ydw i bellach yn Ysgrifennydd Tramor, ond dw i’n dal i feddwl ei bod yn gwbl annerbyniol nad yw hi’n mynd o flaen ei gwell yn y Deyrnas Unedig,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

Mae’n dweud na fyddai Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn godde’r sefyllfa “am un funud” pe bai i’r gwrthwyneb.

“Dw i ddim yn meddwl y byddai Prydain wedi ymddwyn yn y fath fodd,” meddai wedyn.

“A hoffwn ddweud wrth yr Unol Daleithiau fy mod i’n rywun sy’n gefnogwr cryf o’r berthynas arbennig.

“Dw i’n meddwl fod rhaid i ddemocratiaethau’r byd sefyll gyda’i gilydd mewn byd ansicr ond os ydyn ni am fod yn gynghreiriaid, rhaid i ni drin ein gilydd fel cynghreiriaid a dydy hynny ddim yn digwydd.

“Dw i’n meddwl y dylen nhw ddanfon Anne Sacoolas yn ei hôl.”