Mae unig Aelod Cynulliad plaid UKIP yn y Cynulliad wedi galw am gynnal refferendwm tros ddiddymu’r sefydliad.
Yn siarad yn siambr y Senedd yr wythnos hon, cyfeiriodd Neil Hamilton at ganlyniadau pôl piniwn y Welsh Baromiter Poll, ac awgrymodd bod cefnogaeth i ddatganoli yn gwegian.
Mae’r arolwg barn yn dangos bod 27.2% o Gymry o blaid annibyniaeth – ond mae hefyd yn dangos bod 33.8% o blaid cael gwared ar y Cynulliad.
Mae hynny’n dangos bod pobol Cymru yn gwrthwynebu datganoli dan Lafur, meddai, ac yn siarad yn sesiwn holi’r Prif Weinidog mi alwodd am bleidlais ar y mater.
Galw am bleidlais
Meddai Neil Hamilton: “Onid yw hi’n glir o’r cwestiynau rydym ni wedi’u cael heddiw, o bob rhan o’r siambr, bod datganoli dros yr ugain mlynedd ddiwethaf dan Lywodraeth Lafur wedi methu’n llwyr?
“Roedd [Llafur] yn awyddus i gefnogi pleidlais y bobol yn ystod ymgyrch refferendwm yr Undeb Ewropeaidd…
“Onid yw hi’n amser yn awr, wedi ugain mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, i bobol Cymru leisio’u barn ynghylch a yw [Prif Weinidog Cymru] wedi llwyddo neu fethu?”
“Proffwyd gwae”
Ymatebodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn y sesiwn yn y Senedd yr wythnos hon trwy feirniadu “personoliaeth proffwyd gwae” Neil Hamilton.
“Dw i’n anghytuno yn llwyr ag ef ynghylch rhan fwyaf o’r pethau mae e wedi eu dweud,” meddai Prif Weinidog Cymru.
“Dw i wedi colli cownt o’r holl adegau mae wedi dweud wrtha’ i mewn ffordd wichlyd y dylwn barchu canlyniad refferendwm. Dw i’n awgrymu efallai ei fod am wneud yr un peth.”
Hanes datganoli
Cafodd y Cynulliad ei sefydlu yn 1999 yn dilyn refferendwm yn 1997 pan bleidleisiodd 50.3% o’i blaid ei sefydlu, a 49.7% yn erbyn.
Daeth y refferendwm hwnnw yn sgil refferendwm 1979 lle pleidleisiodd mwyafrif swmpus yn erbyn datganoli – 79.74% yn erbyn a 20.26% o blaid.