Mae bron i un o bob pum pensiynwr yng Nghymru yn byw mewn tlodi, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r ddogfen gan Sefydliad Joseph Rowntree (JRF) yn dangos bod 19% o bensiynwyr y wlad yn byw mewn tlodi.

Ac o holl genhedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig, Cymru sydd â’r gyfradd ail uchaf – hi oedd â’r gyfradd ail isaf 20 mlynedd yn ôl.

Ymhlith plant mae’r ganran yng Nghymru sydd yn byw mewn tlodi wedi disgyn i 29%, sydd yn llai na’r gyfradd dros y Deyrnas Unedig gyfan, sef 30%.

Mae’r adroddiad yn dangos bod 14 miliwn o bobol y Deyrnas Unedig yn byw mewn tlodi, gan gynnwys pedwar miliwn o blant a dwy filiwn o bensiynwyr.

Galw am “ddêl well”

“Dyw hi ddim yn iawn fod cymaint yn methu a gosod sail gadarn i’w bywydau,” meddai Prif Weithredwr JRF, Claire Ainsley.

“A hynny oherwydd nad yw eu swyddi’n ddiogel, neu dydyn nhw ddim yn medru dod o hyd i gartref allen nhw fforddio.

“Heb ddêl well i deuluoedd sy’n gweithio, neu sustem diogelwch cymdeithasol sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus i bob un ohonom, mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu rhagor o rwygiadau a thlodi dyfnach.”