Mae teulu Michael O’Leary, dyn o Sir Gaerfyrddin sydd ar goll, wedi diolch i’w gymuned leol am ei chefnogaeth.

Cafodd y gŵr 55 oed o Nantgaredig ei weld am y tro diwethaf ar Ionawr 27, ac mae’r heddlu wedi gwneud sawl apêl am wybodaeth.

Ymddangosodd Andrew Jones, 52, o Fronwydd ger Caerfyrddin, gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher (Chwefror 5) wedi’i ei gyhuddo o’i lofruddio.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf.

Teulu’n diolch

“Mae’r teulu eisiau diolch i’r gwasanaethu brys, gwirfoddolwyr a’r gymuned am eu cefnogaeth,” meddai datganiad gan Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae’r teulu nawr yn gofyn bod eu preifatrwydd yn cael ei barchu yn ystod yr amser anodd yma.”