Mae Ysgrifennydd Cyllid yr Alban wedi ymddiswyddo ar ôl wynebu honiadau iddo anfon cannoedd o negeseuon at fachgen 16 oed.
Roedd disgwyl i Derek Mackay, Aelod Gogledd a Gorllewin Swydd Renfrew yn Senedd yr Alban, gyhoeddi cyllideb llywodraeth yr Alban ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf heddiw.
Yn ôl y papur newydd The Scottish Sun, roedd y dyn 42 oed wedi dod yn ffrindiau gyda’r bachgen ar Facebook ar Instagram. Roedd wedi bod yn cysylltu â’r bachgen dros gyfnod o chwe mis ac wedi cynnig mynd ag ef i gêm rygbi ac allan i ginio.
Roedd mam y bachgen wedi galw ar brif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, i’w ddiswyddo.
Derbyn ei ymddiswyddiad
Wrth dderbyn ymddiswyddiad Derek Mackay, meddai Nicola Sturgeon:
“Mae Derek yn cymryd cyfrifoldeb llawn am ei weithredoedd ac mae’n ymddiheuro’n ddiamwys i’r unigolyn ac i’r rheini mae wedi eu gadael i lawr
“Mae wedi cyflwyno ei ymddiswyddiad fel gweinidog llywodraeth, a dw i wedi derbyn yr ymddiswyddiad.
“Mae Derek wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r llywodraeth, fodd bynnag, mae’n cydnabod bod ei ymddygiad wedi methu â chyfarfod y safonau angenrheidiol.
“Bydd y gweinidog cyllid cyhoeddus, Kate Forbes, yn cyflwyno cyllideb Llywodraeth yr Alban heddiw.”