Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i ailgylchu mwy.

Maen nhw wedi cyhoeddi canllaw sy’n cynnwys gwybodaeth am ailgylchu a gwasanaeth casglu gwastraff sydd newydd gael ei sefydlu.

Mae’r canllaw yn tynnu sylw at bwysigrwydd ailgylchu er mwyn helpu i wella cyfraddau.

Fel rhan o’r canllaw, mae’r cyngor yn gofyn i fyfyrwyr sy’n byw mewn llety preifat i gwblhau arolwg i ddarganfod beth yw eu harferion ailgylchu ar hyn o bryd.

Bydd y sawl sy’n cwblhau’r arolwg yn cael cymryd rhan mewn raffl i ennill y cyfle i fanteisio ar wasanaethau hamdden y cyngor.

Codi ymwybyddiaeth

“Bydd y canllaw newydd i fyfyrwyr yn helpu i sicrhau bod gan fyfyrwyr y wybodaeth hanfodol sydd ei angen i wneud y gorau o’r gwasanaethau ailgylchu sydd ar gael iddynt yma yng Ngheredigion,” meddai’r cynghorydd Dafydd Edwards, sy’n gyfrifol am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai y Cyngor.

“Oherwydd y newidiadau diweddar i’n gwasanaeth, nawr yw’r amser delfrydol i godi ymwybyddiaeth o ba mor hawdd yw hi i ailgylchu ac i leihau faint o eitemau y gellir eu hailgylchu sy’n cael eu taflu’n ddiangen mewn bag bin du.

“I lawer o fyfyrwyr sy’n byw mewn llety preifat, efallai mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw brofi byw’n annibynnol a rhannu’r cyfrifoldeb am ddelio â’r gwastraff maen nhw’n ei gynhyrchu.

“Dyma pam, ynghyd â’r ddealltwriaeth bod pob Cyngor yn y DU yn wahanol yn y ffordd y maent yn delio â gwastraff, ein bod ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ein poblogaeth myfyrwyr yn Aberystwyth oherwydd efallai eu bod wedi arfer delio â gwastraff mewn ffordd hollol wahanol.

“Hoffwn gael gwybod eu barn ar ailgylchu ac ymddygiad o ran gwastraff ac i adnabod a goresgyn unrhyw faterion y gallent fod yn eu hwynebu.

“Felly, os ydych chi’n fyfyriwr yn Aberystwyth sy’n byw mewn llety preifat ar hyn o bryd, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

“Mae’r arolwg yn cymryd llai na dwy funud i’w gwblhau gyda chyfle i ennill gwobr.”