Mae brawd ymosodwr brawychol Arena Manceinion yn llys yr Old Bailey heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 4), i wynebu 22 o gyhuddiadau mewn perthynas â’r digwyddiad.

Cafodd 22 o bobol eu lladd yn yr ymosodiad yn 2017.

Cafodd 91 o bobol eu hanafu, a 28 yn ddifrifol, gyda 111 yn rhagor wedi’u cludo i’r ysbyty.

Bu farw ei frawd, Salman, ac mae wedi’i gyhuddo o gynllwynio i’w gynorthwyo i gynnal yr ymosodiad.

Mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau.

Clywodd y llys fod Salman Abedi wedi ffrwydro dyfais cartref mewn cyntedd yn y neuadd gyngherddau yn ystod cyngerdd Ariana Grande.

Mae’r achos yn cael ei ffrydio i nifer o lysoedd yng ngwledydd Prydain.