Fe fydd Dug a Duges Caergrawnt yn treulio’r diwrnod yn cyfarfod â gweithwyr dur a badau achub yn ardaloedd Abertawe a Phort Talbot.

Bydd William a Kate yn cyfarfod â phenaethiaid cwmni dur Tata a chynrychiolwyr undebau cyn cyfarfod â gweithwyr ar y safle ym Mhort Talbot.

Daeth cyhoeddiad gan y cwmni ym mis Tachwedd fod hyd at 1,000 o swyddi yn y fantol yng ngwledydd Prydain, wrth iddyn nhw geisio torri hyd at 3,000 o swyddi ledled Ewrop.

Byddan nhw hefyd yn ymweld â phencadlys yr RNLI yn y Mwmbwls, un o orsafoedd prysuraf Cymru.

Byddan nhw’n cyfarfod â gweithwyr am eu gwaith dydd-i-ddydd wrth ddarparu gwasanaeth 24 awr.

Byddan nhw’n ymweld â chanolfan ffitrwydd a phaffio Bulldogs ym Mhort Talbot ar ddiwedd y dydd, i weld sut maen nhw’n helpu pobol ifanc â salwch meddwl.