Mae Hysbysiad Adran 60 yn ei le mewn sawl ardal yn y brifddinas tan 2 o’r gloch heddiw yn dilyn dau o achos o drywanu.
Cafodd dau o bobol eu trywanu yng Nghaerdydd o fewn 24 awr.
Fe ddigwyddodd y cyntaf yng Nglanyrafon ddydd Gwener (Ionawr 31) a’r llall yn Nhrebiwt ddoe (Chwefror 1).
Mae’r hysbysiad yn ei le yn ardaloedd Trebiwt, Grangetown a Glanyrafon.
Mae’n galluogi’r heddlu i chwilio unrhyw un am arfau neu offerynnau peryglus heb reswm, ac i atal unrhyw gerbyd am yr un rheswm.
Achosion o drywanu
Cafodd dyn ei drywanu yng Nglanyrafon am 7.40yb fore Gwener, ac mae e mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Yn yr ail achos, cafodd dyn 33 oed ei drywanu yn ardal Trebiwt, a’i gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae e mewn cyflwr difrifol o hyd.
Er nad yw’r heddlu’n cysylltu’r ddau ddigwyddiad, mae’r heddlu’n rhoi’r gorchymyn yn ei le i atal rhagor o ddigwyddiadau tebyg.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y naill ddigwyddiad neu’r llall gysylltu â Heddlu’r De ar 101.