Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu ar ôl i Lys y Goron Abertawe glywed eu bod nhw wedi smyglo gwerth o leiaf £60m o gocên ar long hwylio i mewn i Gymru.
Fe wnaeth yr awdurdodau feddiannu llong hwylio Gary Swift, 53, a Scott Kilgour, 41, oddi ar arfordir Sir Benfro.
Roedden nhw’n cludo 751 o flociau o’r cyffur pur o wlad Surinam ar Awst 27 y llynedd.
Cafodd y llong hwylio ei thywys i mewn i’r harbwr yn Abergwaun cyn i Gary Swift gyfaddef beth roedden nhw’n ei wneud.
Yr achos llys
Dywedodd y barnwr wrthyn nhw eu bod nhw wedi “gamblo’n sylweddol ac wedi colli” yn un o’r cyrchoedd cyffuriau mwyaf dros y blynyddoedd diwethaf.
Clywodd Llys y Goron Abertawe mai £24m oedd gwerth yr holl gyffuriau gyda’i gilydd, ond y gallen nhw gael eu gwerthu ar y stryd am bron i dair gwaith y swm hwnnw, os nad mwy pe bai’r cocên yn cael ei dorri i lawr.
Yn ôl yr erlynwyr, roedd y cyffur dair neu bedair gwaith yn gryfach na’r arfer ar y stryd.
Mae lle i gredu mai Gary Swift oedd arweinydd y cynllwyn, tra bod Scott Kilgour wedi talu 50,000 Ewro am y llong hwylio o Sbaen ym mis Rhagfyr 2018.
Fe wnaeth y ddau bledio’n euog i fewnforio cyffuriau dosbarth A.
Yr amddifyniad
Yn ôl cyfreithiwr ar ran y ddau ddiffynnydd, mae’r achos yn un “unigryw” am fod y ddau ddyn wedi cael eu dal â’r cyffuriau yn eu meddiant.
Mae’n dadlau nad oedd Scott Kilgour yn ymwybodol o raddfa’r hyn roedden nhw’n ei wneud tan ei fod e ar fwrdd y llong hwylio, ac fe ddisgrifiodd e Gary Swift fel adeiladwr methdal oedd yn cludo cyffuriau i ennill arian er mwyn cuddio’i ddyledion.
Ond dywedodd y barnwr Paul Thomas fod Gary Swift wedi synhwyro “ffortiwn sylweddol” er mwyn talu am foethusrwydd, gan gynnwys pwll nofio oedd wedi cael ei grybwyll mewn negeseuon.
Cafodd Gary Swift ei garcharu am 19 mlynedd a hanner, a Scott Kilgour wedi’i garcharu am 13 mlynedd a hanner, tra bod tri dyn 23, 31 a 47 oed a dynes 30 oed yn dal ar fechnïaeth.