Mae awdurdodau gwledydd Prydain yn ceisio cludo pobol allan o dalaith Hubei yn Tsieina, wrth i swyddogion Iechyd Cyhoeddus Lloegr rybuddio bod yr achos cyntaf o’r firws coronavirus yng ngwledydd Prydain yn debygol o effeithio ar rywun sydd eisoes yn y wlad.
Fe fu’r Athro Yvonne Doyle yn siarad â Sky News.
“Ein barn ni yw mai’r lle mwyaf tebygol o ddod o hyd i achos, er bod meysydd awyr yn bwysig, yw bod rhywun eisoes yn y wlad, ac mae’n gwbl hanfodol fod y gwasanaeth iechyd cyhoeddus a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn barod i roi diagnosis o hynny ac yn gallu cyfeirio’r person i’r cyfleusterau cywir,” meddai.
“Dyna’r sefyllfa fwyaf tebygol rydyn ni’n ei hwynebu.”
Yn eu datganiad diweddaraf, mae’r Swyddfa Dramor yn rhoi gwybodaeth am linell gymorth 24 awr sydd ar gael i bobol dderbyn cyngor.
Mae cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Tsieina ar hyn o bryd, ac mae hynny’n ei gwneud hi’n anodd i bobol dderbyn cyngor a chymorth meddygol.
“Diogelwch trigolion gwledydd Prydain yw ein prif flaenoriaeth,” meddai llefarydd, sy’n dweud bod yr awdurdodau’n monitro’r sefyllfa ac yn cydweithio ag awdurdodau Tsieina.
‘Rydyn ni’n barod’
“Rydyn ni wedi bod yma o’r blaen, rydyn ni wedi ymdrin â firws o’r Dwyrain Canol, rydyn ni wedi ymdrin â Sars, rydyn ni’n ymdrin â’r ffliw yn rheolaidd, a all fod yn beryglus, ond rydyn ni’n barod,” meddai’r Athro Yvonne Doyle wedyn.
Mae’n dweud ei bod hi’n “disgwyl” clywed fod achosion o’r firws yng ngwledydd Prydain eisoes.
Mae ymdrechion ar y gweill i ddod o hyd i 2,000 o bobol sydd wedi dod i wledydd Prydain o Tsieina ar awyrennau.
Mae disgwyl fod rhai ohonyn nhw eisoes wedi dychwelyd i Tsieina.
Cyngor
Wrth roi cyngor ynghylch iechyd a hylendid, mae’n dweud bod golchi dwylo â sebon yn fwy effeithlon na gwisgo mwgwd, er y dylid eu gwisgo wrth weithio mewn ysbytai wrth ymdrin ag achosion posib.
Mae hi’n annog unrhyw un sydd wedi dod i wledydd Prydain o ddinas Wuhan ac sy’n teimlo’n sâl i ffonio 111.
Mae pob un o’r 52 o brofion sydd wedi’u cynnal yng ngwledydd Prydain hyd yn hyn yn dangos nad yw’r bobol hynny’n dioddef o’r firws.
Ac mae lefel y risg o ganlyniad i’r firws yn isel iawn ar hyn o bryd.
Mae cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieinïaidd wedi cael eu canslo yn sgil y firws.