lMae gweithiwr elusen Oxfam yn Abertawe wedi ennill statws ffoadur, sy’n golygu na fydd yn rhaid iddo ddychwelyd i’r Congo.

Roedd disgwyl y byddai’n rhaid i Otis Bolamu ddychwelyd i’w famwlad dros y Nadolig ar ôl cael ei gadw yn y ddalfa yn Lloegr.

Ond cafodd ei ryddhau ddiwedd yr wythnos ddiwethaf er mwyn clywed canlyniad ei apêl.

Yn ôl y dyn 38 oed, fe wnaeth e ffoi o’r Congo yn 2017 ar ôl cael ei amau o ysbïo ar ran un o wrthbleidiau’r wlad.

Cafodd ei lusgo o’r gwely yn ei gartref yn Abertawe gan swyddogion mewnfudo ar Ragfyr 19, a’i gludo i ganolfan gadw yn Gatwick.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa dros y Nadolig gan nad oedd staff y Swyddfa Gartref na chyfreithwyr ar gael i ymdrin â’r achos tan y flwyddyn newydd.

Ond fe ddenodd deiseb fwy na 12,000 o lofnodion, ac fe gafodd e ganiatâd i ddychwelyd i Abertawe dros dro cyn ei apêl.

‘Gwahaniaeth mawr’

Ar ôl clywed ddiwedd yr wythnos ddiwethaf y byddai’n cael dychwelyd i Abertawe, dywedodd ei gyfreithiwr Jamie Bell fod yr ymgyrch wedi gwneud “gwahaniaeth mawr” yn ei frwydr i gael aros yn y ddinas.

“Rydym wrth ein boddau fod Otis wedi mynd adref ar ôl cael ei ryddhau o’r ddalfa,” media.

“Mae Otis wedi cael cefnogaeth anhygoel gan gynifer o bobol yng nghymuned Abertawe ac fe roddodd hyn obaith iddo pan oedd e’n teimlo ar goll.

“Mae’r deisebau, y protestiadau a’r gefnogaeth wleidyddol gan wleidyddion Cymru wedi gwneud gwahaniaeth go iawn wrth atal yr anghyfiawnder hwn rhag digwydd.”

Helynt yn y Congo

Daw’r newyddion am apêl Otis Bolamu wrth i’r Congo ethol Felix Tshisekedi yn arlywydd. 

Ond mae arweinydd yr wrthblaid, Martin Fayulu, yn honni bod y canlyniad yn un ffug a thwyllodrus, gan gyhuddo’r cyn-arlywydd Joseph Kabila o ddod i gytundeb â’r arlywydd newydd.

Mae’r honiadau’n golygu bod pryderon y gall fod rhagor o drais yn y wlad.