Daeth cadarnhad ddydd Llun (Ionawr 13) bod gwesty Caer Rhun Hall yn Nyffryn Conwy wedi cael ei gau, pum mis ar ôl cael ei roi yn nwylo’r derbynwyr.
Roedd y gwesty wedi cael ei brynu gan gwmni Northern Powerhouse Developments (NPD) yn 2015 am £1m.
Eu bwriad oedd troi’r safle o fod yn lleoliad ar gyfer priodasau i fod yn westy. Ond cafodd Caer Rhun Hall ei roi yn nwylo’r derbynwyr, Duff & Phelps Cyf, ar Awst 8 y llynedd.
Roedd y gwesty wedi parhau i fasnachu ond fe wnaed y penderfyniad i gau Caer Rhun heddiw (Dydd Llun, Ionawr 13).
“Penderfyniad anodd”
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y derbynwyr Duff & Phelps eu bod nhw wedi gwneud “y penderfyniad anodd” i gau’r gwesty oherwydd “sefyllfa ariannol y gwesty a nifer o broblemau iechyd a diogelwch ar y safle na ellir eu datrys heb ariannu pellach. Nid yw’r opsiwn yma yn ymarferol ac er mwyn diogelwch y staff a’r gwesteion, mae’r gwesty wedi ei gau.”
Ychwanegodd bod y staff wedi cael gwybod bore ma ac y bydden nhw’n derbyn tal llawn am eu gwaith.
Mae nifer o briodasau wedi cael eu trefnu yn y gwesty ac fe fydd y derbynwyr yn trafod yn uniongyrchol gyda nhw i wneud trefniadau eraill, meddai.