Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud ei bod hi’n “lwcus” nad oedd plant na rhieni yn y cyffuniau pan gafodd lori ddamwain ger ysgol gynradd yng Ngheredigion ddydd Llun.

Gyrrodd y lori drwy rwystrau cyn mynd ymlaen ar lwybr troed a dod i stop yn hongian uwch lōn arall ychydig lathenni i ffwrdd o ysgol gynradd Ysgol Llwyn yr Eos, Aberystwyth, tua 3.20yp..

Roedd y lori’n hongian dros y tanffordd islaw am oriau nes iddo gael ei gludo i ffwrdd a llwyddwyd i ailagor ffordd yr A4120 tua 10.30yh.

Dywed Heddlu Dyfed Powys eu bod yn ymchwilio i mewn i’r ddamwain ond nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi eu hanafu.

Dywedodd uned plismona ffyrdd yr heddlu mewn neges drydar ei bod hi’n “Lwcus nad oedd pramiau na phlant” yn defnyddio’r llwybr troed ar y pryd.​