Mae’r undeb trafnidiaeth wedi addo brwydro yn erbyn cynllun y Torïaid i wahardd streiciau yn y sector trafnidiaeth.
Daeth y datganiad gan undeb RMT wedi i’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps ddatgan ei fod yn bwriadu cynnwys darpariaethau yn Araith y Frenhines ddydd Iau a fyddai’n gorfodi gweithwyr i redeg gwasanaethau yn ystod streiciau diwydiannol.
Dywedodd Grant Shapps y bydd y deddfau ar streiciau yn cynnal “hawl sylfaenol” pobl i gyrraedd y gwaith bob dydd ac yn atal atal arweinwyr undebau llafur rhag dal teithwyr yn “wystl” yn ystod anghydfodau diwydiannol.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Mick Cash: “Dyw hi heb gymryd llawer i wir liwiau’r Llywodraeth Dorïaidd newydd hon ddod i’r amlwg.
Mae gwahardd streiciau a gwadu’r hawl ddynol sylfaenol i weithwyr i streicio wedi bod yn nod amgen cyfundrefnau awdurdodaidd asgell dde trwy gydol hanes.
“Bydd RMT yn brwydro yn erbyn unrhyw gynlluniau i wrthod eu hawliau dynol sylfaenol i aelodau.”