Mae heddlu yn Seland Newydd wedi cyhoeddi enwau’r ddau berson na chafodd eu darganfod wedi i losgfynydd ffrwydro.

Fe gafodd 18 o bobol eu lladd yn y digwyddiad yr wythnos ddiwethaf.

Dywed yr heddlu mai Winona Langford, merch 17 oed o Sydney, Awstralia, a Hayden Marshall-Inman, arweinydd teithiau o Seland Newydd yw’r ddau berson coll.

Mae’r heddlu yno’n credu fod cyrff y ddau rhywle yn y dŵr o amgylch yr Ynys Wen.

Ond mae tywydd garw heddiw wedi gorfodi’r chwilio gael ei ohirio am yr ai ddiwrnod yn ganlynol.