Mae’r digrifwr, Rhod Gilbert, yn mynd i arwain ymgyrch newydd i daflu goleuni ar bwnc “cudd” anffrwythlondeb mewn dynion a cheisio cael gwared â’r stigma o’i gwmpas.
Mae’r digrifwr o Gaerfyrddin yn credu bod cymdeithas yn gweld anffrwythlondeb fel “mater benywaidd”, er gwaethaf y gred feddygol fod anffrwythlondeb mewn dynion yn ffactor mewn hyd at hanner yr achosion lle mae cyplau yn ei chael hi’n anodd beichiogi.
Mae am ddefnyddio ei brofiadau ei hun a’i wraig yn ei chael hi’n anodd beichiogi er mwyn rhoi cefnogaeth i HIMfertility, ymgyrch sy’n annog dynion i siarad yn fwy agored.
Dywedodd Rhod Gilbert: “Yn aml, dyw dynion ddim yn wych am fod yn agored am bynciau sensitif sy’n ymwneud ag iechyd, ond pan mae’n bwnc sy’n ymwneud â gwrywdod a bywiogrwydd, yna rydyn ni hyd yn oed yn waeth.”
Mae tua un o bob saith cwpwl yn profi anawsterau wrth geisio beichiogi, yn ôl Gwasanaeth Iechyd.
Bydd Rhod Gilbert wedi ffilmio ei daith yn archwilio anffrwythlondeb ac yn cwrdd â dynion eraill sydd wedi profi anawsterau fel rhan o raglen ddogfen newydd i BBC Cymru fydd yn cael ei ddarlledu yn 2020.