Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth yr wrthblaid, Andy McDonald, wedi cyhuddo’r BBC o “chwarae rhan” yn chwalfa’r Blaid Lafur yn yr Etholiad Cyffredinol yr wythnos ddiwethaf.
Fe wnaeth Andy McDonald yr honiad mewn cyfweliad ar BBC Radio 4.
Daeth ei sylwadau wrth i’r dadlau ynghylch arweinyddiaeth y Blaid Lafur ffyrnigo, gyda Jeremy Corbyn yn wynebu rhagor o feirniadaeth.
Pan ofynnodd y cyflwynydd Justin Webb wrth Andy McDonald beth oedd i gyfrif am fethiant y Blaid Lafur, dywedodd: “Dw i’n ofidus iawn am ein gwasanaeth darlledu cyhoeddus”.
“Ydych chi’n dweud fod y BBC yn rhannol gyfrifol am fethiant Jeremy Corbyn?”, gofynnodd y cyflwynydd Justin Webb.
“Dw i’n dweud eu bod nhw wedi chwarae rhan,” meddai Andy McDonald.
Huw Edwards yn taro’n ôl
Ond mae’r darlledwr Huw Edwards, a fu’n gyfrifol am raglenni’r BBC ar noson yr etholiad, wedi wfftio honiadau Andy McDonald.
Dywedodd mai pwrpas llawer o’r feirniadaeth yw “achosi anhrefn a dryswch.”