Mae ymgeisydd plaid Gwlad yn dweud eu bod nhw eisiau gweddnewid y system addysg yng Nghymru er mwyn creu “cenedl ddysg newydd”.
Mae Laurence Williams, ymgeisydd y blaid ym Mro Morgannwg, yn dweud bod moral staff yn isel, newidiadau cyson yn y cwricwlwm a chau ysgolion i gyd yn fygythiadau o du’r llywodraeth bresennol.
Mae’n tynnu sylw hefyd at gwymp Cymru ar restr PISA dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, gan ddweud bod angen “edrych tua’r Iseldiroedd a’r Ffindir” am esiamplau o addysg o safon uchel.
“Dydy’r holl amhariadau cyson yn hysgolion ddim wedi helpu’r un iod – maen nhw’n ansefydlogi staff ac mae’r disgyblion yn cael eu defnyddio fel arbrawf i bob pwrpas,” meddai Laurence Williams.
Addysg ddwyieithog
Ynghyd â galw am bwyslais o’r newydd ar addysg alwedigaethol a thechnegol, mae’n galw am wneud addysg ddwyieithog yn “norm” ledled Cymru.
“Rydym yn ceisio cydbwysedd o ran rhagoriaeth mewn addysg academaidd, ond rhagoriaeth hefyd mewn addysg alwedigaethol a thechnegol, heb wahaniaethu rhyngddyn nhw,” meddai’r peiriannydd trydanol.
“Fel hyn, gallwn ddod yn genedl ddysg unwaith eto, fel yr oedd Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd cyfraddau llythrennedd, er enghraifft, ymhlith y gorau yn Ewrop.”