Mae aelod o staff Boris Johnson wedi rhegi’n fyw ar ITV fore heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 11), wrth i newyddiadurwr ofyn am gyfweliad gyda phrif weinidog Prydain.

Roedd e’n llwytho llaeth a sudd ar gefn lori yn Leeds ar ddiwrnod ola’r ymgyrch seneddol cyn yr etholiad cyffredinol pan aeth Jonathan Swain ato a gofyn am sgwrs 

Roedd Piers Morgan a Susanna Reid eisoes ar yr awyr o’r stiwdio.

Pan ddywedodd y gohebydd fod yr adroddiad eisoes yn fyw, roedd modd clywed Rob Oxley yn rhegi.

Mynegodd y cyflwynwyr eu sioc cyn i’r gohebydd rybuddio’r aelod o staff am ei iaith “gan fod pobol yn gwylio hyn y bore ’ma”.

“Wrth gwrs y gwnaf fi,” meddai’r prif weinidog wrth ymateb i’r cais wedyn.

“Bydda’ i gyda chi mewn eiliad.”

Dywedodd Piers Morgan wedyn fod Rob Oxley wedi ffonio’r rhaglen yn cwyno nad oedd e wedi ymosod ar y gohebydd.

Yn ôl y cyflwynydd, roedd Rob Oxley yn “eithriadol o ffiaidd, ymosodol iawn â cheg afiach ac yn wrthun”.