Mae Marie Fredriksson, prif leisydd y band Roxette, wedi marw yn 61 oed ar ôl bod yn brwydro tiwmor ar ei hymennydd ers 2002.
Mae’r band yn fwyaf adnabyddus am eu clasuron ‘It Must Have Been Love’ a ‘Listen To Your Heart’.
“Diolch, Marie, diolch am bopeth,” meddai Per Gessle, aelod arall y band wrth dalu teyrnged iddi.
“Roeddet ti’n gerddor rhagorol, yn feistres y llais ac yn berfformwraig anhygoel.
“Diolch am baentio fy nghaneuon du a gwyn gyda’r lliwiau rhyfeddaf.”
Yn dilyn cyfnod o iechyd gwell, teithiodd y band ym mhob rhan o’r byd, ac fe wnaethon nhw recordio sawl albwm newydd.
Ond daeth y teithio i ben yn 2016 pan waethygodd ei hiechyd eto.
Hanes y band
Daeth y band Roxette o Sweden i’r amlwg ddiwedd y 1980au gyda’r gân ‘The Look’ yn 1989.
Aethon nhw yn eu blaenau i gyhoeddi’r clasuron ‘Listen To Your Heart’, ‘It Must Have Been Love’ a ‘Joyride’.
Maen nhw wedi gwerthu mwy nag 80 miliwn o recordiau gan ennill llu o wobrau ac enwebiadau.
Mae ganddyn nhw ddeg albwm, gyda phedwar ohonyn nhw wedi cyrraedd y 10 uchaf yn siartiau gwledydd Prydain.