Mae nifer o actorion o Gymru wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau ffilm a theledu’r Golden Globes.

Mae Taron Egerton yn y ras ar gyfer gwobr yr Actor Gorau am ei brif ran yn Rocketman, ffilm am Elton John.

Bydd e’n herio Daniel Craig, sydd wedi’i enwebu ar gyfer Knives Out.

Mae Christian Bale, a gafodd ei eni yn Sir Benfro, wedi’i enwebu ar gyfer y perfformiad gorau gan actor mewn ffilm ddrama, a bydd e’n mynd ben-ben â Jonathan Pryce.

Mae Anthony Hopkins wedi’i enwebu yng nghategori’r Actor Cynorthwyol gorau am ei ran yn y ffilm The Two Popes.

Bydd e’n herio Tom Hanks, Al Pacino, Joe Pesci a Brad Pitt am y wobr.

Cafodd yr enwebiadau eu cyhoeddi yng ngwesty’r Beverly Hilton yn Beverly Hills gan y cyflwynwyr Dakota Fanning, Susan Kelechi Watson a Tim Allen.

Bydd y brif seremoni ar gyfer y 77fed gwobrau’n cael ei chyflwyno gan y digrifwr Ricky Gervais ar Ionawr 5.

Dyma’r enwebiadau’n llawn.