Mae Tomos Dafydd Davies, ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr yn etholaeth Dwyfor-Meirionnydd, yn dweud bod “Cymry Cymraeg da ym mhob plaid”.

Daw’r datganiad wrth i’r blaid geisio cipio’r sedd oddi ar Liz Saville Roberts a Phlaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau (Rhagfyr 12).

Mae’n dweud nad oes gan Blaid Cymru “ddim monopoli dros y bleidlais Gymraeg” gan apelio ar bleidleiswyr y blaid i roi benthyg eu pleidlais i’r Ceidwadwyr.

Safodd e dros y Ceidwadwyr ym Môn yn etholiad cyffredinol 2017, gan orffen yn ail y tu ôl i Albert Owen, yr aelod seneddol Llafur a gamodd o’r neilltu cyn yr etholiad cyffredinol hwn.

Enillodd e 27.8% o’r bleidlais gyda 10,384 o bleidleisiau allan o 37,367 o’i gymharu â 15,643 o bleidleisiau i Lafur, sy’n cyfateb i 41.9% o’r bleidlais.

Eleni, fe oedd ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholiadau Senedd Ewrop.

‘Cymro Cymraeg balch a datganolwr’

“Mae ‘na Gymry Cymraeg da ym mhob plaid, gan gynnwys y Blaid Geidwadol. Rwyf i yn un ohonyn nhw,” meddai’r ymgeisydd Ceidwadol.

“Rwy’n Gymro Cymraeg balch ac yn ddatganolwr. 

“Rwyf wedi brwydro ar hyd fy oes i gryfhau statws gwleidyddol Cymru ac i ddiogelu’r iaith
Gymraeg.

“Rwy’n falch iawn o fod wedi medru defnyddio fy nylanwad yn y Swyddfa Gymreig i gryfhau statws y Cynulliad, gan lywio Mesur Cymru drwy’r Senedd ac arwain y ddadl oddi fewn y Llywodraeth o blaid datganoli pwerau pellach i Fae Caerdydd.

“Cefais yr anrhydedd o arwain adolygiad cynhwysfawr ar ran Comisiynydd y Gymraeg o wasanethau Cymraeg Llywodraeth y DU. 

“Fe dalodd yr adolygiad hwn ar ei ganfed, wrth i adrannau Whitehall gryfhau eu cynlluniau iaith ac ehangu’r ystod o wasanaethau Cymraeg sydd ar gael arlein. 

“Roeddwn yn arbennig o falch o fedru darbwyllo’r Llywodraeth i fuddsoddi yng ngwasanaeth Gymraeg [sic] Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ym Mhorthmadog.”

Dywed Tomos Dafydd Davies iddo ddioddef sawl ymosodiad personol gan aelodau’r mudiad cenedlaethol am ei fod yn gweithio yn Lludain – digwyddiad a arweiniodd at ddatganiad gan Seimon Brooks, cynghorydd tref Plaid Cymru, na fyddai’n ymgyrchu ar ran Liz Saville Roberts.

Lladd ar Blaid Cymru 

Dywed Tomos Dafydd Davies “fod Plaid Cymru wedi cymryd pleidlais y Cymry Cymraeg yn ganiatawol [sic] ers amser”. 

“Fy apel personol i eleni yw i gefogwyr y Blaid fenthyg eu pleidleisiau a chefnogi Cymro balch fydd a dylanwad oddi fewn i’r Llywodraeth Geidwadol. 

“Dim ond sgrechian o’r cyrion gall Plaid Cymru gyflawni. 

“Fe all Dwyfor Meirionnydd a Chymru gyflawni gymaint yn fwy â llais cryf oddi fewn i’r Llywodraeth yn San Steffan.”

Hanes perfformiad Plaid Cymru

Cafodd y sedd ei chreu yn 2010, a chafodd ei hennill gan Elfyn Llwyd y flwyddyn honno cyn iddo ymddeol. Enillodd e’r sedd gyda mwyafrif o 6,367.

Pleidleisiodd 28,906 allan o’r 45,354 oedd wedi cofrestru i fwrw eu pleidlais y tro hwnnw.

Daeth Liz Saville Roberts yn aelod seneddol yr etholaeth yn 2015, wrth i fwyafrif Plaid Cymru gael ei chwtogi i 5,261.

Bryd hynny, fe wnaeth 28,913 fwrw eu pleidlais allan o’r 44,394 oedd wedi cofrestru.

Yn yr etholiad diwethaf ddwy flynedd yn ôl, mwyafrif o 4,850 oedd gan Blaid Cymru, gyda 30,312 allan o 44,699 wedi bwrw eu pleidlais.

Perfformiad y Ceidwadwyr

Fe fu’r Ceidwadwyr yn ail ym mhob etholiad hyd yn hyn, gyda Neil Fairlamb yn sefyll yn y ddau etholiad diwethaf, a Simon Baynes yn cynrychioli’r blaid yn yr etholiad cyntaf yn 2010.

Enillodd y blaid 6,447 o bleidleisiau allan o 28,906 yn 2010, sy’n cyfateb i 22.3% o’r bleidlais.

Fe lwyddon nhw i gynyddu’r bleidlais i 22.7% yn 2015, gan ennill 6,550 o bleidleisiau allan o 28,913.

Yn 2017, enillon nhw 8,837 o bleidleisiau allan o 30,312 gan gynyddu eu canran eto i 29.1%.