Mae trafferthion cwmni Ted Baker wedi gwaethygu yn dilyn y newyddion fod eu prif weithredwr a’u cadeirydd wedi gadael eu swyddi.
Mae rhagor o bryderon am elw’r cwmni.
Rachel Osborne yw prif weithredwr dros dro y cwmni yn lle Lindsay Page, oedd wedi olynu’r sylfaenydd Ray Kelvin ym mis Mawrth.
Bryd hynny, roedd Ray Kelvin wedi’i gyhuddo o ymddygiad amhriodol tuag at ei staff, ac roedd ei ddyletswyddau eisoes wedi cael eu cwtogi erbyn hynny yn dilyn honiadau blaenorol o gofleidio a chusanu staff.
Sharon Baylay sy’n camu i swydd y cadeirydd dros dro yn lle David Bernstein.
Daw’r ymddiswyddiadau ar ôl i’r cwmni fethu â thalu cyfrannau, wrth iddyn nhw ddarogan elw blynyddol cyn treth o £5m i £10m yn dilyn ffigurau gwerthu siomedig dros y deufis diwethaf.
Roedd ganddyn nhw elw cyn treth o £50.9m yn ystod yr un cyfnod y llynedd.
Mae’r cwmni’n dweud mai’r flwyddyn ddiwethaf fu’r un fwyaf heriol erioed, gyda chwymp o 5.5% mewn gwerthiant.
Mae ymgynghorwyr yn cynnal adolygiad o effeithlonrwydd y cwmni, ei gostau a’i fodel busnes mewn ymgais i’w achub.
Mae adolygiad o asedau’r cwmni ar y gweill ers mis Hydref.
Mae cyfrannau’r cwmni wedi gostwng mwy na 75% ers dechrau’r flwyddyn.