Fe fydd tref Prestatyn yn cael tafarn Wetherspoons newydd sbon fel rhan o ddatblygiad a fydd yn creu 10,000 o swyddi yng ngwledydd Prydain.
Roedd adroddiadau’r llynedd y byddai’r dafarn newydd yn cael ei chodi ar safle adeilad fu’n gartref i’r heddlu, y Maer a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae Wetherspoons yn buddsoddi £200m mewn cyfres o dafarnau a gwestai dros gyfnod o bedair blynedd, gyda’r rhan fwyaf yn mynd i drefi bach a chanolig.
Y trefi eraill fydd yn elwa yw Bourne yn Swydd Lincoln, Ely yng Nghaergrawnt, Diss yn Norfolk, Felixstowe yn Suffolk, Newport Pagnell yn Swydd Buckingham, Waterford yn Iwerddon a Hamilton yn yr Alban.
Ond fe fydd buddsoddi’n digwydd mewn nifer o ddinasoedd hefyd, gan gynnwys Llundain, Dulyn, Caeredin, Glasgow, Birmingham, Leeds a Galway.
Fe fu Tim Martin, sylfaenydd a chadeirydd y cwmni, yn llafar ei gefnogaeth i Brexit.
Mae gan y cwmni 875 o dafarnau a 58 o westai yng ngwledydd Prydain, ac mae’n cyflogi 44,000 o staff.