Mae merch 15 oed wedi cael ei chyhuddo ar ôl i’r gantores Katherine Jenkins ddioddef ymosodiad yn ne-orllewin Llundain.

Roedd Katherine Jenkins ar ei ffordd i rihyrsal yn Kings Road yn Chelsea bnawn dydd Mercher pan welodd wraig oedrannus yn dioddef ymosodiad. Pan aeth i’w helpu, fe wnaeth yr ymosodwyr droi arni hi hefyd, yn ôl ei hasiant.

Cafodd dwy ferch 15 oed eu harestio wedi’r digwyddiad ar amheuaeth o ddwyn. Yn dilyn gwybodaeth bellach, mae un ohonyn nhw wedi cael ei chyhuddo o ddwyn ac o ymosod ar yr heddlu, ac fe fydd hi’n wynebu ynadon Highbury ar 6 Ionawr.

Er gwaethaf yr hyn a ddigwyddodd iddi, llwyddodd Katherine Jenkins i ganu mewn cyngerdd carolau at elusen yn Chelsea y noson honno.