Fe fydd trenau Virgin, y cwmni sydd wedi bod yn rhedeg gwasanaethau trên rhwng gogledd Cymru a Llundain ers 1997, yn teithio am y tro olaf heddiw.

Cwmni Avanti West Coast fydd yn rhedeg y trenau o Gaergybi ar hyd arfordir y gogledd i Lundain o yfory ymlaen.

Dros y 22 mlynedd ddiwethaf, mae Virgin wedi gwneud bron i 500 miliwn o deithiau trên rhwng Llundain, canolbarth a gogledd-orllewin Lloegr, yr Alban a gogledd Cymru.

Methodd y cwmni yn eu hymgais i barhau i redeg trenau ar y rhwydwaith i’r gogledd-orllewin o Lundain ar ôl i’r Adran Drafnidiaeth eu gwahardd ym mis Ebrill oherwydd anghydfod ynghylch rhwymedigaethau pensiwn.