Mae arfordir gorllewinol Cymru yn wynebu gwyntoedd o hyd at 70 milltir yr awr wrth i Storm Atiyah ddynesu at wledydd Prydain.

Fe fydd rhybudd tywydd garw yn dod i rym ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru, de-orllewin a gogledd-orllewin Lloegr am 3 o’r gloch bnawn yfory, ac yn parhau at 9 o’r gloch fore Llun.

Storm Atiyah yw’r gyntaf i gael ei henw gan swyddfeydd tywydd Prydain ac Iwerddon y tymor yma.

Meddai Tony Wardle ar ran Swyddfa Dywydd Prydain:

“Mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu cyfnod ansefydlog o dywydd gyda gwyntoedd cryf iawn, yn enwedig ar yr arfordir gorllewinol. Mae disgwyl hyrddiau o hyd at 70 milltir yr awr mewn rhai lleoedd arfordirol, gyda hyrddiau o 50-60 milltir yr awr yn gyffredin i fewn yn y tir.”

Ychwanegodd fod disgwyl tonnau mawr hefyd yn ne-orllewin Lloegr, gan rybuddio pobl i gadw hyn mewn cof cyn mentro allan.

Er bod disgwyl diwrnod gwell dydd Llun mae cyfnod arall o dywydd gwlyb a gwyntog yn cael ei ddarogan ar gyfer dydd Mawrth.