llae dyn 61 oed wedi’i gael yn euog o lofruddio gweithiwr elusen.yn dilyn ffrwgwd mewn tafarn yn Abertawe.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Mark Bloomfield, 54, wedi cael ei ganfod ag anafiadau y tu allan i dafarn y Full Moon ar Stryd Fawr y ddinas ym mis Gorffennaf, yn dilyn ffrae â Colin Payne, sy’n arbenigo yn y crefftau ymladd.

Bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.

Fe wnaeth Colin Payne gyfaddef dynladdiad y dyn oedd wedi cydweithio â’r Fam Theresa yn y gorffennol. 

Ond fe gymerodd y rheithgor lai nag awr i’w gael yn euog o lofruddio, ar ôl wfftio’r awgrym ei fod e’n ceisio amddiffyn ei hun.

Clywodd y llys ei fod e wedi gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy wylio deunydd camerâu cylch-cyfyng o’r ymosodiad o’r bar, rhwygo’r cyfrifiadur oddi ar wal a’i daflu allan o’r dafarn.

Bydd e’n cael ei ddedfrydu yfory (dydd Iau, Rhagfyr 5), ac mae’r barnwr wedi dweud wrtho y gall ddisgwyl dedfryd oes.

Cefndir

Clywodd y llys fod Thomas Payne wedi dilyn Mark Bloomfield allan o’r dafarn ac wedi ei daro i’r llawr ar ôl i ddiod gyffwrdd â chefn ei bartner.

Clywodd y llys wedyn fod Thomas Payne wedi’i gael yn euog o ymosod ar weithiwr mewn gwesty yn 2009, ac o ffrwgwd yn ymwneud â’i gyn-wraig y llynedd, ac wedi cael dedfryd o chwe mis o garchar.

Fe wnaeth e hefyd afael yng ngwddf dyn arall a gwneud iddo gwympo’n anymwybodol y noson cyn iddo ladd Mark Bloomfield, ond chafodd e mo’i erlyn.

Wnaeth cyfreithwyr ar ran Thomas Payne ddim cyflwyno unrhyw dystiolaeth yn ystod yr achos.