Mae Bob Willis, y sylwebydd criced a chyn-gapten tîm Lloegr, wedi marw’n 70 oed yn dilyn salwch hir.

Chwaraeodd e mewn 90 o gemau prawf ac fe fydd yn cael ei gofio am ei ran yn llwyddiant Lloegr wrth ennill Cyfres y Lludw yn 1981.

Yn y gyfres honno, fe gipiodd e wyth wiced am 43 yn y trydydd prawf yn Headingley.

Mae’n bedwerydd ar restr prif fowlwyr Lloegr, gyda 325 o wicedi.

Chwaraeodd e i siroedd Warwick a Surrey ar lefel sirol.