Mae myfyriwr wnaeth arddangos graffiti hiliol a homoffobig yng Nghaerdydd wedi cael ei garcharu am 16 mis.
Adeg y troseddau ym Mawrth ac Ebrill 2018 roedd Elliot Jasper Richards-Good yn 18 oed ac yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywed Heddlu De Cymru, o fewn wythnosau iddo gyrraedd, fod llenyddiaeth a graffiti hiliol a homoffobig wedi dechrau ymddangos o amgylch y brifddinas.
Fe wnaeth swyddogion o Uned Gwrthderfysgaeth Eithafiaeth Cymru (WECTU) dracio’r dyn ifanc i lawr ar ôl rhoi lluniau teledu cylch cyfyng at ei gilydd.
Dangosodd delweddau feiciwr gyda chamera wedi ei strapio i’w frest yn seiclo o Cathays i’r Senedd ac yn ôl y noson ymddangosodd symbol y Natsïaid ar adeilad y llywodraeth.
Arestiwyd Elliot Jasper Richards-Good yn Cheltenham ar Fedi 20 2018, gyda swyddogion yn adfer paent chwistrell, menig a dillad.
Plediodd Elliot Jasper Richards-Good yn euog yn Llys y Goron Caerdydd i 11 cyhuddiad, gan gynnwys ennyn casineb hiliol a difrod troseddol a waethygwyd gan hil, meddai’r heddlu.
“Mae Caerdydd yn ddinas amlddiwylliannol groesawgar a bywiog ac roedd safbwyntiau a gweithredoedd ffiaidd Richards-Goods yn haeddiannol wedi peri pryder mawr ymhlith y gymuned leol,” meddai’r Ditectif Uwcharolygydd Noel Harris, pennaeth WECTU.
“Roedd ein swyddogion yn benderfynol o ddal y person a oedd yn gyfrifol cyn gynted â phosibl, er mwyn atal troseddu pellach ac anfon neges i’r gymuned – a’r lleiafrif sy’n rhannu ideolegau hiliol Richards-Good – na fydd yn cael ei oddef.”