Mae’r BBC wedi addo gwella cynrychiolaeth pobl anabl ar ac oddi ar y sgrin.
Mae llawer wedi cwyno am rhy ychydig o gynrychiolaeth o anabledd ar y teledu.
Mae’r darlledwr bellach wedi cyhoeddi “ymgyrch ar y cyd i fynd ymhellach ar gynrychiolaeth”.
Yn ogystal â rhaglenni newydd, bydd “portread gwell yn y rhaglenni presennol”, meddai’r BBC.
Bydd comisiynau newydd yn cynnwys “ffilm bersonol iawn” gan ohebydd diogelwch y BBC, Frank Gardner, yn wynebu’r heriau o ddod yn anabl yn sydyn.
Mae Frank Gardner wedi defnyddio cadair olwyn ar ôl cael ei saethu chwe gwaith gan ddynion al Qaida yn Saudi Arabia.
Bydd seren y Last Leg, Alex Brooker, yn wynebu “gwir natur ei anabledd am y tro cyntaf” yn Disability And Me.
Bydd yr actor a’r ysgrifennwr Mat Fraser yn curadu monologau “heriol”, pob un wedi’i berfformio gan rywun ag anabledd, a bydd y comedi Jerk yn dychwelyd am gyfres newydd.
Mae’r BBC hefyd wedi addo gwella “portread anabledd achlysurol ac integredig mewn rhaglenni sy’n bodoli eisoes”.
Bydd y darlledwr hefyd yn cyflwyno “pasbort y BBC” ar gyfer staff ag anableddau, sy’n cofnodi anghenion ac yn “helpu i sicrhau” y gefnogaeth gywir i allu symud yn esmwyth rhwng swyddi.
Dywedodd rheolwr comisiynu ffeithiol y BBC, Alison Kirkham, nad yw’r diwydiant “bob amser wedi gwneud digon i gynnig cyfleoedd i bobl anabl ac felly mae wedi colli allan ar eu talent”.
“Rydyn ni am osod y bar yn uwch, ar gyfer y diwydiant cyfan, gyda thalent oddi ar y sgrin a chynrychiolaeth ar y sgrin,” meddai.
Gwnaed y cyhoeddiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau.
Croesawodd yr elusen cydraddoldeb i bobl anabl Scope ymrwymiad y BBC.
“Mae anabledd yn parhau i gael ei dangynrychioli’n fawr ar ein sgriniau a thu ôl i’r llenni, yn enwedig gan fod un o bob pump o bobl yn anabl,” meddai pennaeth cyfathrebu Scope, Warren Kirwan.
“Pan nad yw pobl anabl yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli, mae talent a photensial yn mynd heb eu cydnabod ac mae agweddau a stigma negyddol heb eu cydnabod.
“Mae’n dda gweld ein cwmnïau darlledu yn gweithio i herio canfyddiadau ac agweddau tuag at bobl anabl ym mhopeth a wnânt.”