Stadiwm y Mileniwm
Mae Undeb Rygbi Cymru yn disgwyl i 16,000 o bobol fod yn Stadiwm y Mileniwm y bore yma i wylio Cymru’n herio Awstralia yn Seland Newydd.

Daeth tua 62,000 i’r Stadiwm yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwetha’ i wylio Cymru’n colli o drwch blewyn yn erbyn Ffrainc.

Roedd mwy yn gwylio ar sgriniau enfawr yn y Stadiwm nag oedd yn gwylio’r gêm ei hun yn Seland Newydd.

Mae Cymru yn herio Awstralia’r bore yma er mwyn penderfynu pwy sy’n dod yn drydydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Ddydd Sul fe fydd Ffrainc a Seland Newydd yn chwarae yn y ffeinal, gyda’r tîm cartref yn ffefrynnau mawr i gipio’r tlws am y tro cyntaf ers chwarter canrif.

Mae mynediad i Stadiwm y Mileniwm yn rhad ac am ddim.