Pencadlys Heddlu Llundain
Mae’r ddau lanc o Gaerdydd a oedd wedi eu harestio yn Kenya wedi cael eu rhyddhau gan Heddlu Llundain.
Fydd y ddau ddyn 18 oed ddim yn wynebu unrhyw gyhuddiadau ar ôl iddyn nhw gael eu hatal rhag croesi i mewn i Somalia.
Y gred oedd eu bod am geisio ymuno gyda grŵp Islamaidd terfysgol yno – roedd tad un o’r bechgyn wedi rhybuddio’r heddlu a theithio i Kenya i’w helpu.
Neithiwr, fe gafodd ei fab Mohamed Mohamed Abdallah ac Iqbal Shahzad, sydd o dras Bacistanaidd, eu harestio gan Heddlu Llundain wrth gyrraedd maes awyr Heathrow.
Fe gawson nhw eu gollwng yn rhydd tua phump awr yn ddiweddarach a’u gadael i deithio’n ôl i Gaerdydd.
Croeso’n ôl
Mae tri mudiad sy’n cynrychioli pobol Islamaidd a Somaliaid yn y brifddinas wedi cyhoeddi datganiad yn croesawu’r ddau yn ôl.
“Mae’r ddau lanc o Gaerdydd yn ôl o Kenya ac yn awr gyda’u teuluoedd,” meddai Cyngor Moslemiaid Cymru, Mosg Nur Al Islam a Chanolfan Wybodaeth a Chyngor y Somaliaid.
“Maen nhw’n iach ac yn falch i fod gyda’u teuluoedd a’u cymunedau. Mae’r gymuned Foslemaidd a’r gymuned ehangach wedi croesawu’r newyddion da yma.”