Bydd bron i draean o bleidleiswyr Cymru yn bwrw pleidlais dactegol yn yr etholiad ar Ragfyr 12.

Dyna un o gasgliadau astudiaeth ddiweddar y cwmni ymchwil YouGov, ar ran Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru (ERS Cymru).

Mae 29% wedi dweud y byddan nhw’n pleidleisio tros blaid a fydd yn rhwystro plaid arall rhag ennill, yn hytrach na fotio tros y blaid maen nhw yn ei hoffi fwyaf.

Dywedodd ychydig dros hanner (53%) y byddan nhw’n pleidleisio am y blaid maen nhw’n ei hoffi fwyaf, doedd 11% heb benderfynu, a doedd 7% ddim yn bwriadu pleidleisio.

Mae astudiaeth ledled y Deyrnas Unedig wedi dangos mai chwarter yr etholwyr sydd yn debygol o bleidleisio’n dactegol ar Ragfyr 12.

Sefyllfa “absẃrd”

Yn ôl Cadeirydd ERS Cymru, Jess Blair, mae’r ffigurau’n dangos bod angen diwygio’r sustem bleidleisio Cyntaf i’r Felin – lle mae’n rhaid dod yn gyntaf mewn etholaeth i ennill y sedd.

“Mae’n glir bod sustem Cyntaf i’r Felin San Steffan wedi torri ac yn tanseilio democratiaeth Gymreig,” meddai.

“Canlyniad sustem sydd wedi torri yw’r canlyniadau yma. Mae pobol yn teimlo fel eu bod nhw yn methu pleidleisio am eu dewis cyntaf.

“Mae’n absẃrd bod hyn yn cael ei orfodi ar bleidleiswyr Cymreig.”

Manylion

Cafodd 1,116 o oedolion eu holi rhwng Tachwedd 22 a Thachwedd 25.

Ar sail ffigurau etholiad cyffredinol 2017, mae 29% o etholwyr yn gyfwerth â hanner miliwn o bobol.